Merch y Wendon Hallt (Welsh Edition)

  1. home
  2. Books
  3. Merch y Wendon Hallt (Welsh Edition)

Merch y Wendon Hallt (Welsh Edition)

4.21 29 1
Share:

Beirniad cystadleuaeth y Stori Fer yn yr Eisteddfod Genedlaethol yw Myfi. Wrth dafoli gwaith y cystadleuwyr mae hi'n myfyrio ar ei bywyd ei hun: ar...

Also Available in:

  • Amazon
  • Audible
  • Barnes & Noble
  • AbeBooks
  • Kobo

More Details

Beirniad cystadleuaeth y Stori Fer yn yr Eisteddfod Genedlaethol yw Myfi. Wrth dafoli gwaith y cystadleuwyr mae hi'n myfyrio ar ei bywyd ei hun: ar ei magwraeth ym Mhen Llŷn, ei gwaith academaidd, ar garwriaethau a dod yn fam.

Bywgraffiad Awdur:
Daw Non Mererid Jones o Bwllheli, Llŷn. Astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac enillodd ddoethuriaeth yn yr un pwnc o Brifysgol Bangor yn 2020. Bu’n gweithio fel Tiwtor Cymraeg i Oedolion am flynyddoedd ac mae hi erbyn heddiw yn Ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Ryng-golegol Bangor 2017 a daeth i’r brig yng nghystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017. Daeth yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 gyda’r nofel hon.

Rhwng gweithio a magu mae hi’n mwynhau rhedeg a nofio, ond yr hyn sy’n rhoi’r boddhad mwyaf iddi yw hel caffis gyda’i mab, Lleu.
Merch y Wendon Hallt yw ei chyfrol gyntaf.
Gwybodaeth Bellach:
‘Dyma waith sy’n pefrio. Mae strwythur y nofel hon yn drawiadol a chlyfar a’i chynnwys yn hollol Gymreig ac eisteddfodol!’ – Ion Thomas
‘Gwreiddiol a gonest, doniol a deifiol.’ – Lleucu Roberts
‘Deuwn i adnabod unigolyn sensitif, hunanfeirniadol sy’n teimlo pethau i’r byw.’ – Menna Baines

  • Format:
  • Pages: pages
  • Publication:
  • Publisher:
  • Edition:
  • Language:
  • ISBN10:1845277392
  • ISBN13:9781845277390
  • kindle Asin:1845277392

About Author

Non Mererid Jones

Non Mererid Jones

4.21 29 1
View All Books