Cysgod y Cryman
Nofel gyntaf Islwyn Ffowc Elis a ddaeth yn un o glasuron llenyddiaeth Gymraeg. Adroddir stori Harri Vaughan, mab i ffarm helaeth ym Mhowys, yn...
Also Available in:
- Amazon
- Audible
- Barnes & Noble
- AbeBooks
- Kobo
More Details
Nofel gyntaf Islwyn Ffowc Elis a ddaeth yn un o glasuron llenyddiaeth Gymraeg. Adroddir stori Harri Vaughan, mab i ffarm helaeth ym Mhowys, yn fyfyriwr yng Ngholeg Bangor yn niwedd y 1940au. Dan ddylanwad Gwylan Thomas daw Harri'n gomiwnydd ac yn anffyddiwr, a dyna gychwyn y frwydr hir rhyngddo a'i dad cefnog a chyhoeddus, Edward Vaughan. Ni all ei chwaer, Greta, briodi'r dyn y mae'n ei garu, ei Almaenwr ifanc, Karl, am fod meddyg o Sais yn benderfynol o'i chael hi'n wraig. Yn gefndir i'r stori afaelgar gwelwn ddechrau'r newid yng nghefn gwlad Cymru ar ôl y rhyfel. Ni fu ei diwylliant na'i chrefydd byth yr un fath ar ôl hynny. Cyhoeddwyd Cysgod y Cryman yn wreiddiol ym 1953, ac fe'i dewisiwyd yn 'Llyfr y Ganrif'.
- Format:Paperback
- Pages:317 pages
- Publication:2003
- Publisher:Gomer Press
- Edition:
- Language:wel
- ISBN10:0863837107
- ISBN13:9780863837104
- kindle Asin:B09TB8XWS8








